top of page

Bywyd Mick

IMG_4552.jpg

Roedd gan Mick lawer o syniadau bob amser a  cheisiau eu gwireddu drwy gael cydweithrediad pawb.            Ei hoff ddywediad oedd geiriau Lloyd George, dyfynnai rhain yn aml: ‘Yr huodledd gorau yw cyflawni”.

IMG_1201.JPG

Bu fyw y geiriau yma.  Dyfyniad arall a ailadroddai “Gwnaeth neb gamgymeriad mwy na’r sawl a wnaeth ddim oherwydd dim ond ychydig a allai ei gyflawni.”

 

Dywedodd llawer fod Mick wedi gweithio 100 milltir yr awr, ac mae un o’r dywediadau a hoffai yn dangos  hyn fel y dywedodd Neil Armstrong: ‘Credaf fod gan bob un nifer pendant o guriadau calon. Nid wyf i am wastraffu un.”

Mae’n gadael etifedd na fyddai cofiant ohoni ond drwy’r safle wê. Mae’r teulu am amlygu ychydig.

 

Yn y 1990 sefydlodd Mick Fforwm Tref Llanfair Caereinion a sicrhaodd fod y dref yn ennill  gwobr menter Trefi Marchnad.  Roedd yn rhannol gyfrifol am sefydlu Mentrau Gwledig Maldwyn a hawliodd £1.2m o arian Ewropiaidd i gefnogi mentrau arloesol i ffermydd Sir Drefaldwyn.

Cafodd ei ethol i nifer o swyddi yn Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn cynnwys cynrychioli Maldwyn ar Gyngor y Deyrnas Unedig o’r Undeb. Roedd yn frwdfrydig i geisio dangos delwedd ffafriol o ffermio drwy groesawu athrawon a disgyblion ysgol i’w gartref, Rallt Ucha.

 

Sefydlodd y rhaglen amaeth gyntaf ar Radio Maldwyn a hefyd cyfrannodd i sefydlu cangen RABI Sir Dredaldwyn yn 1998. Roedd yn gynghorydd Democrataidd Rhyddfrydol dros Llanfair Caereinion a Ddyffryn Banwy.

IMG_1211.JPG

Yn 1997 pan ddaeth datganoli i Gymru penderfynnodd daflu ei hun i’r ymryson genedlaethol. 

Cynrychiolodd Sir Drefalwyn hyd 2011. Yn ystod y cyfnod, sefydlodd ‘Cyswllt Ffermio’, sefydlodd ail ddarparu llaeth am ddim i’r disgyblion ieuangaf ac arweiniodd yr ymgyrch i ddileu y defnydd o fagiau plastig yng Nghymru cyn i Lloegr ddilyn.

 

Roedd Mick bob amser yn mwynhau gweithgareddau cymdeithasol, y rhai lleol a’r rhai

Cenedlaethol; eisteddfodau, sioeau, cyngerddau a gemau rygbi.

 

Roedd wrth ei fodd efo pob agwedd o chwareuon a gallai drafod y rhain am oriau. Wythnos cyn ei farwolaeth roedd wedi ei foddhau yn fawr yn gwylio Man U yn trechu Lerpwl!

66728564_10219708279962129_2638755772686663680_n.jpg

Roedd Mick yn dad a thaid ffantastig. Roedd wrth ei fodd mewn parti hefo hen ffrindiau a ffrindiau newydd ac yn aml ef oedd yn olaf ar y llawr dawns. Roedd yn ffan gydol oes o Bob Dylan a gallai ddyfynnu o bron bob un o’i benillion. Bu yn ei gyngerdd olaf yn Hyde Park yn 2019.

 

Roedd Mick wrth ei fodd yn peintio, yn enwedig Moel Bentyrch, y mynydd sydd yn wynebu cartref y teulu ym Maldwyn. Dyma yw tarddiad llun Stanley, un o’r wyrion sydd ar logo’r gronfa.

“Gadawodd Mick y parti- parti bywyd. Er ein bod wedi ffarwelio, ni deimlwn byth fod y parti drosodd. Bydd Mick yn ein calonnau drwy ein hatgofion”
 
Eileen Hughes,  un o ffrindiau da Mick a Buddug
bottom of page