Ein Stori

Roedd Mick wedi byw bywyd i’r eithaf. Rhoddodd ei amser, egni a brwdfrydedd er budd pobl eraill. Roedd ganddo rym i lonni a bod yn bositif.
​
Y gymuned oedd flaenllaw yn ei galon. Roedd yn angerddol am adfywio cymuned, datblygiadau cynaladywedd a chreu cyfleoedd i fobl ifanc gyrraedd eu potensial.
​
Erfynnai am ddod o hyd i’r daioni cyffredin wrth ymgyrchu am faterion gwledig. Ymhyfrydai ym Maldwyn, Llanfair Caereinion ei dreflan agos a Dyffryn Banwy. Ceisiai sicrhau’r gorau i ddynt a’u pobl.
Colled enfawr i’r gymuned a wasanaethai oedd marwolaeth Mick. Talodd y gymuned ei pharch yn amlwg yn ei wasanaeth coffa.
​
Mae Cronfa Goffa Gymunedol Mick Bates wedi ei sefydlu gan deulu Mick i ddathlu ei fywyd a’i grêd yng ngrym pobl yn cydweithio i wneud gwelliannau.
​
Trwy’r Gronfa y bwriad i’w cadw gweledigaeth Mick yn fyw a chodi arain i elusennau ac achosion oedd wrth fodd ei galon. Mae rhain yn cynnwys cefnogi pobl ifanc, yr amgylchedd, adfywio y dref a phrosiectau celf cymunedol. Bwriad y Gronfa yw hyrwyddo gwelliannau ym Maldwyn ond yn bennaf yn Llanfair Caereinion a Ddyffryn Banwy.